Genesis 2

Duw yn gorffwys ar y seithfed diwrnod

1Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.

2Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. 3Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.

Gardd Eden

4Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu:

Pan wnaeth Duw y bydysawd, 5doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. 6Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.

7Dyma'r Arglwydd Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. 8Yna dyma'r Arglwydd Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi ei siapio yno. 9Wedyn gwnaeth yr Arglwydd Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. (Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.)

10Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen. 11Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur. 12(Mae'r aur sydd yno yn bur iawn. Mae perlau ac onics yno hefyd.) 13Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. 14Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon.

15Dyma'r Arglwydd Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani. 16A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, 17ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.”

18Dwedodd yr Arglwydd Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.” 19A dyma'r Arglwydd Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un ohonyn nhw. 20Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal.

21Felly dyma'r Arglwydd Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. 22Wedyn dyma'r Arglwydd Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn. 23A dyma'r dyn yn dweud,

“O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi!
Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.
‛Dynes‛ fydd yr enw arni,
am ei bod wedi ei chymryd allan o ddyn.”

24Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Maen nhw'n dod yn uned deuluol newydd.

25Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.

Copyright information for CYM